Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mai 2020
Amser:
10.06 -
11.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6131
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Caroline Jones AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd, pe bai'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden MS yn dod yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2.1 Holodd yr Aelodau y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i swyddogion ynghylch Covid-19 ac ymateb ei hadran hyd yma i'r pandemig.
2.2 Cytunodd y Gweinidog, os yn bosibl, i ddarparu rhagor o wybodaeth am nifer y bobl sy'n cymryd gwyliau morgais a nifer yr achosion o droi pobl allan o dai yn ystod y pandemig.